|
|
|
JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL
Mae Cerflunio yn golygu cynhyrchu gwrthrych tri-dimensiwn sydd rywsut yn mynegi syniadau ac emosiynau’r person sy’n ei greu. Defnyddir ystod eang iawn o ddeunyddiau a thechnoleg mewn cerflunio ac maent yn newid yn gyson i adlewyrchu’r byd rydym yn byw ynddo a lle rydym yn creu celf. Mae’r cwrs cerflunio yn Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru’n unigryw oherwydd byddwch yn ymdrin â chymaint ag y medrwch o brosesau traddodiadol yn ystod y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn cynhyrchu gwaith dur, plastr, gwneud moldiau, castio efydd, cerfio mewn carreg a phren. Bellach caiff myfyrwyr blwyddyn gyntaf gyfle i redeg ffwrnais grom fach, a chynhyrchu cerflunwaith haearn bwrw, a hyd y gwyddom, dyma’r unig goleg ym Mhrydain i gynnig y cyfleuster hwn. Mae dau fyfyriwr yn cael cyfle i gymryd blwyddyn i ffwrdd o’r coleg i weithio yn ffowndri gastio AB Fine Art yn Llundain, ac eleni maent wedi bod yn gweithio gyda Mark Quinn ar ei gerfluniau o Kate Moss, yn ogystal â gweithio gyda’r Brodyr Chapman ac Anish Kaphoor. Caiff myfyrwyr sy’n dangos diddordeb gyfle i dreulio hanner eu hail flwyddyn ar raglen cyfnewid myfyrwyr gyda Phrifysgol Talaith Kansas, America. Trwy gyfrwng rhaglen diwtorial, yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich gweledigaeth eich hunan a chynhyrchu corff o waith a fydd yn arwain at sioe blwyddyn olaf. Gall y gwaith hwn fod mewn deunyddiau sy’n draddodiadol neu ddeunyddiau nad ydynt yn draddodiadol, ac anogir gwaith arloesol ac arbrofol yn fawr iawn. Yn ogystal â gweithdai arbenigol i gefnogi’r cwrs, lleolir y Gyfadran yn agos i ardaloedd arfordirol a mynyddig ysblennydd, sy’n cynnig digon o gyfleoedd ar gyfer gweithio yn yr amgylchfyd. Mae’r holl aelodau o staff yn artistiaid gweithredol brwdfrydig sy’n meddu ar ystod o sgiliau amrywiol.
Enillodd Rita Carter wobr myfyrwyr Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru ar gyfer 2007.
Ym mis Mawrth 2007, gwahoddwyd staff a myfyrwyr i gymryd rhan yn “The Iron Tribe” yn Las Vegas, New Mexico. Ym mis Ebrill 2007, roedd Elizabeth Evans a Steve Coles yn bresennol yn y ‘Sloss Historic Iron Pour’ yn Birmingham, Alabama. Ym mis Mawrth 2006, adeiladodd staff a myfyrwyr ‘Y-Ddraig-Goch,’ sef ffwrnais grom fach, ac roeddent yn bresennol yn y Bumed Cynhadledd Ryngwladol ar Haearn Bwrw, yn Ironbridge yn y DU. Enillwyr Arddangosfa Myfyrwyr Cymdeithas Medal Gelf Prydain ym 1999, 2000, 2001,2003, 2004 a 2006. Comisiwn Unison Fountain a wnaed gan Carmen Friedman. Prosiect Cerflunwaith Gardd ar gyfer pobl sy’n gallu gweld a phobl â golwg rhannol, Cartref Preswyl Argel.
Côd sefydliad UCAS: C22
Côd Cwrs W130 Tair blynedd llawn amser gyda llwybrau rhan-amser ar gael. Arllwysiad Haearn Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru yn Amgueddfa'r Glannau, Abertawe, Hydref 09
VJ IRONPOUR 2007
2007 CERFLUNIO
|
||||
| LAST_UPDATED2 |



cerflunio celfyddyd gain


